Cyflwyno canlyniadau Prosiect Maelgi: Cymru
PWYSIGRWYDD CYMRU I’R MAELGI
Rhywogaeth brin o siarc gydag esgyll hirion sy’n llithro ar draws gwely’r môr yw’r Maelgi. Ar un adeg roedd yn gyffredin ar draws gorllewin Ynysoedd Prydain ond mae’r Maelgi bellach Mewn Perygl Difrifol. Ar ôl dioddef dirywiad helaeth ar draws ei gynefin dros y ganrif ddiwethaf, cafwyd nifer cynyddol o adroddiadau am ymddangosiad y rhywogaeth brin hon ar hyd arfordir Cymru yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae hyn yn rhoi gobaith am ei dyfodol.
BETH YW MAELGI (LLUOSOG: MAELGWN)
Siarc mawr, gyda chorff fflat sy’n gallu cyrraedd 2.4m o hyd yw’r Maelgi (Squatina squatina). Mae’n perthyn i deulu’r Squatinidae, sy’n cael ei ystyried fel yr ail deulu o elasmobranchs (siarcod, sglefrod a morgathod) sydd dan y bygythiad mwyaf yn y byd. Bydd Maelgwn fel arfer yn cael eu canfod dan y dŵr mewn cynefinoedd tywodlyd mewn dyfroedd arfordirol.
Yn Saesneg, gelwir y Maelgi hefyd yn ‘monkfish’ neu’n ‘angel fish’, ac weithiau bydd y siarcod hyn yn cael eu camgymryd am forgathod neu eu cam-gofnodi fel ‘Cythreuliaid y Môr’ (‘Anglerfish’).
Edrychwch ar www.angelsharknetwork.com er mwyn deall y prif fygythiadau ac i gael gwybod am brosiectau cadwraeth ar gyfer teulu’r maelgi, a hynny ar draws ei gynefin.
CYNLLUN GWEITHREDU MAELGWN CYMRU
Mae rhwydwaith cryf o gyrff anllywodraethol, Asiantaethau Llywodraethol a Phrifysgolion wedi cydweithio er mwyn creu Cynllun Gweithredu Maelgwn Cymru, sy’n cynnig cyfle unigryw i ddeall a diogelu’r rhywogaeth hon yn nyfroedd Cymru.
Mae’r Cynllun Gweithredu yn darparu rhestr o Gamau Gweithredu i’w cyflawni dros y pum mlynedd nesaf, a thrwy gydweithio i gyflawni’r Cynllun Gweithredu hwn, gallwn symud tuag at ein Gweledigaeth: poblogaeth o Faelgwn sy’n ffynnu yng Nghymru.
CADWCH LYGAD AM MAELGWN WEDI’U TAGIO
Mae Prosiect Maelgi: Cymru wedi tagio’r Maelgwn cyntaf yng Nghymru gyda thagiau lloeren miniPAT a thagiau adnabod i astudio symudiad y rhywogaeth brin hon. Dyluniwyd y tagio i sicrhau’r effaith leiaf bosibl i’r siarc a’i gwblhau gan bersonél hyfforddedig o dan drwydded *. Bydd y data yn darparu gwybodaeth bwysig ar gyfer Maelgwn yng Nghymru ac yn gweithio tuag at gyflawni gweithredoedd blaenoriaethol Cynllun Gweithredu Maelgwn Cymru, a lansiwyd ym mis Awst 2020.
Mae angen eich help:
- Os dewch ar draws siarc wedi’i dagio ar ddamwain gofynnwn nid i tynnu’r tagiau ac yn dilyn ein canllawiau arfer gorau I ryddhau’r siarc yn ddiogel.
- Cofnodwch y rhifau adnabod ar y ddau dag ac adroddwch eich cyfarfod â www.angelsharkproject.com/map neu [email protected]
- Bydd y tag yn rhyddhau o’r siarc yn 2022. Os dewch o hyd iddo ar traeth , casglwch ef ac e bostiwch [email protected]
*Cynhaliwyd y weithdrefn tagio gan o dan Drwydded Prosiect Deddf Anifeiliaid Gweithdrefn Wyddonol a awdurdodwyd gan y Swyddfa Gartref Rhoddwyd trwyddedau gan Cyfoeth Naturiol Cymru i gwblhau’r arolwg o dan drwydded Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad Trwydded (rhif. S089787/1)
TRI PHRIF FAES Y PROSIECT
YMGYSYLLTU Â PHYSGOTWYR
Mae pysgotwyr yng Nghymru yn stiwardiaid cadwraeth maelgwn, gan ddarparu data hanfodol ar achosion o ddod ar draws y rhywogaeth hon heddiw ac yn y gorffennol. Mae pysgota sy’n targedu maelgwn yn anghyfreithlon, serch hynny caiff rhai eu dal yn ddamweiniol mewn sgil-ddalfeydd, ac mae’r cofnodion hyn yn hanfodol.
Mewn cydweithrediad â physgotwyr, rydym wedi datblygu canllawiau arferion gorau i ryddhau maelgwn yn ddiogel os cânt eu dal yn ddamweiniol.Mae’n cynnwys gwybodaeth ar sut i drin a lleihau’r effaith ar y maelgwn sy’n cael eu dal yn ddamweiniol, a lle i roi gwybod am y ddalfa.
Rydym yn gweithio’n agos gyda physgotwyr ar draws Cymru trwy gyfrwng cyfarfodydd anffurfiol, mynychu digwyddiadau cymdeithasau a’r cyfryngau cymdeithasol. Bydd y data a rennir yn gwella’r ddealltwriaeth o boblogaeth y maelgi yn nyfroedd Cymru a fydd yn ei dro’n cyfrannu tuag ddiogelu’r rhywogaeth.





HANES Y MAELGI
Mae’r maelgi yn parhau i fod yn brin yng Nghymru, felly rydym angen eich help chi i ddarganfod stori’r siarc hwn a’i gysylltiad Cymreig! Gallwch helpu’r prosiect trwy rannu eich straeon, atgofion a’ch lluniau am y maelgi gyda’r tîm.
Er mwyn darganfod mwy am hanes y maelgi a threftadaeth forol oddi ar arfordir Cymru, gallwch lawrlwytho e-lyfr Angylion Cymru – llyfr rhyngweithiol wedi’i ddylunio ar gyfer plant rhwng 7 ac 11 oed.
Byddwn yn rhannu’r e-Lyfr Angylion Cymru gydag ysgolion ac amgueddfeydd ar draws Cymru yn 2021 – os ydych am i’ch ysgol gymryd rhan yna cysylltwch ag [email protected].





DNA AMGYLCHEDDOL
Mae’r maelgi’n rhywogaeth ddirgel, sy’n golygu ei bod yn anodd iawn eu lleoli, yn enwedig mewn dyfroedd dwfn neu fudr. Wrth i’r maelgi ryngweithio a’i amgylchedd, mae’n gadael ôl ei DNA yn naturiol yn y dyfroedd o’i gwmpas.
Gan fod y DNA hwn yn aros yn y dŵr am gyfnod o amser, gallwn gymryd samplau o’r dŵr mewn gwahanol leoliadau arfordirol er mwyn casglu, gwneud dilyniant o, ac adnabod y DNA hwn i ddarganfod a yw’r maelgwn yn aros yn y dyfroedd hyn gydol y flwyddyn – heb orfod gweld na dal y siarcod hyn.

SUT I GYMRYD RHAN
Dilynwch y canllawiau
Mae’n anghyfreithlon targedu’r pysgodyn hwn, ond os digwydd i chi ddal un ar ddamwain pan fyddwch yn pysgota dylech ddilyn ein canllaw arfer gorau er mwyn ei ryddhau mewn cyflwr da.
Dylai deifwyr a snorclwyr sy’n ddigon ffodus o ddod ar draws Maelgi mewn dŵr gadw at God Ymddygiad Maelgwn bob amser.
Adrodd am Arsylliadau
Bydd cael gwybodaeth oddi wrthych chi yn ein helpu i ddeall ecoleg y Maelgi yn well yn y dyfroedd sy’n amgylchynu Cymru. Rydym yn annog unrhyw un sydd â chofnodion hanesyddol, cyfredol ac yn y dyfodol am y Maelgi yng Nghymru i adrodd am eu data.
Gellir llwytho unrhyw arsylliadau yn uniongyrchol i’r map ‘gweld Maelgi’
eLyfr
Mae’r llyfr rhyngweithiol wedi’i gynllunio ar gyfer plant ysgol rhwng 7 ac 11 oed sy’n datgelu mwy am hanes Maelgwn a threftadaeth forwrol oddi ar arfordir Cymru.
Mae’r eLyfr yn cyd-fynd â Chwricwlwm Cymru 2022, lawrlwythwch y pecyn adnoddau athrawon i weld sut y gellir defnyddio’r eLyfr yn yr ystafell ddosbarth.
Y Cyfryngau cymdeithasol
Cadwch olwg ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol i gael gwybod am ddigwyddiadau a chyfleoedd sydd i ddod er mwyn gallu dysgu mwy am y Maelgi yn nyfroedd Cymru.
SUT MAE’R MAELGI WEDI’I DDIOGELU YNG NGHYMRU